‘Pont y Borth yn eich poced’ – Mae Treftadaeth Menai yn chwilio am ddarnau £1 sydd yn portreadu Pont y Borth

Mae Treftadaeth y Fenai, yr elusen annibynnol sydd yn rhedeg yr Arddangosfa Pontydd ym Mhorthaethwy, yn bwriadu codi arian trwy hel darnau £1 sydd yn portreadu Pont y Borth. Fe ddiddymir y darnau yma cyn bo hir fel y cyflwynir y darn £1 deuddeng ochr newydd gan y Llywodraeth a’n bwriad yw defnyddio yr arian i helpu’r symudiad arfaethedig o fynd a’r Amgueddfa i Lanfa’r Tywysog ar lan y Fenai.

Yn 2005 cyflwynwyd darn £1 yn portreadu Pont y Borth fel rhan o gyfres o bedair pont. Y dair pont arall oedd Pont Rheilffordd y Forth, Yr Egyptian Arch Bridge ger Newry yng Ngogledd Iwerddon a’r Gateshead Millennium Bridge. Ym mis Mawrth cyflwynodd y Bathdy Brenhinol y darn £1 newydd, deuddeng ochr ac fe ddiddymir yr hen ddarnau erbyn mis Hydref.

Bwriad Treftadaeth Menai yw dathlu’r portread hwn o nodwedd lleol mor arbennig trwy hel cyn gymaint o ddarnau arian ag sydd bosibl ac yna cynnal gweithgaredd cyhoeddus yng Nglanfa’r Tywysog lle defnyddir y darnau arian i greu amlinelliad o’r Bont.

Joanna Robertson

Mae Joanna Robinson, Cadeirydd Treftadaeth Cymunedol Porthaethwy  yn dweud, “ ‘Rydym yn gofyn i alodau’r cyhoedd i gadw llygaid am y darnau arian hyn ac yna ei gosod ar un ochor er budd y ganolfan. Byddwn hefyd yn falch o dderbyn y darnau eraill sydd â’r pontydd gwahanol arnynt, yn wir byddwn yn ddiolchgar am unrhyw gyfraniad i’n helpu i noddi’n hymdrechion i gynnal yr amgueddfa ac i gofnodi hanes yr ardal o gwmpas y Fenai.”

Gellir gweld bwcedi ar gyfer casglu’r arian yn Swyddfa Bost y Borth ar y Stryd Fawr a Banc y Nat West. Hefyd yng Nghanolfan Thomas Telford (gyferbyn â Waitrose) yn ystod oriau’r swyddfa sef yn y bore ar ddyddiau Llun, Mercher, Iau a Gwener neu pan fydd yr arddangosfa yn agored sef o’r 5ed o Ebrill ymlaen (rhwng 10 y bore a 5 y p’nawn).

Wrth sôn am y casgliad dywedodd Swyddog Cymunedol NatWest, Rachel Williams: ‘Mae fy Nghydweithwyr a minnau yn falch iawn o gefnogi  ymgyrch ‘Treftadaeth Menai’ i gasglu darnau  prin £1 gyda llun nodweddiadol o Bont Borth cyn iddynt fynd o gylchrediad. Fe fydd blychau casglu yng Nhanghennau NatWest lleol ac rwy’n annog cwsmeriaid a phobl leol i alw mewn ac rhoi beth bynnag y gallant. Gwn y defnyddir yr arian a gesglir i gefnogi  y gwaith ardderchog mae ‘Treftadaeth Menai’ yn ei wneud i hybu ein tref  rhyfeddol’.

Share this - Rhanwch hyn: