HMS Conwy

1859 – 1974

HMS ConwayDechreuodd hanes HMS Conway yn yr 1850au – oherwydd rheolau newydd mewn morio masnachol ‘roedd angen mwy o forwyr gydag addysg dda a phroffesiynnol. Arweiniodd hyn tuag at sefydlu llongau hyfforddi a’r gyntaf o’r rhain oedd HMS Conway a angorwyd wrth Rock Ferry ar yr afon Merswy yn 1859. Tros y blynyddoedd defnyddiwyd tair llong fel y Conway ond yr olaf a’r un a fu’n gwasanaethu hiraf oedd yr HMS Nile a adeiladwyd yn 1839.

Yn ystod 1941 dioddefodd Lerpwl a’r dociau ymosodiadau difrifol o’r awyr a penderfynwyd ail-leoli’r HMS Conway i safle llawer mwy heddychlon ar yr Afon Menai. Ar Mai 21ain 1941 dechreuodd HMS Conway ar ei thaith gyntaf ers 65 mlynedd a  24 awr yn ddiweddarach cyrhaeddodd angorfa Glyn Garth i’r gorllewin o Bier Bangor. Mae hanes am y cadetiaid ambell waith yn cael eu camgymeryd gan bobol leol am yr hogiau, rhai gyda phroblemau ymddwyn, fyddai’n arfer bod dan hyfforddiant ar y llong hyfforddi, Clio, ei rhagfleynydd  ar yr angorfa.

Daeth taith nesaf y llong wyth mlynedd yn ddiweddarach. Roedd mwy o alw am gadetiau i fod yn swyddogion a theimlai Capten y Conway, Capten Goddard, fod angen dod o hyd i safle ar y lan i letya mwy ohonynt. Dewiswyd safle Plas Newydd oherwydd bod lle yno ar gyfer caeau chwarae ac i godi adeiladau. Ar Ebrill 14eg 1949 symudwyd y Conway, gyda chymorth dau dynfad, i lawr yr Afon Menai a thrwy Bwll Ceris at Blas Newydd. ‘Roedd mast y llong wrth fynd oddi tan Pont y Borth o fewn 3 troedfedd i’r bont, a daeth yn  agos iawn at grafu gwely’r afon ar adegau.

HMS Conway sinking
HMS Conway yn suddo

Pedair blynedd yn ddiweddarach, yn 1953, roedd angen adnewyddu’r llong ym Mhenbedw. Awgrymodd peilotiaid lleol (Richard Jones a’i fab) wrth y prif swyddog, Captain Eric Hewitt, RNR, y dylid cael tri tynfad, Cytunodd y swyddog ond gwrthodwyd y cynnig gan Bwyllgor Rheoli’r Conway oedd yn mynnu mynd am ddau fel yn 1949. Wrth i’r llong nesau at y Bont y Borth aeth yn anodd i’w rheoli felly symudwyd y tynfad ôl i’r blaen mewn ymdrech i wella’r sefyllfa. Gadawodd hyn starn y llong heb reolaeth a munudau yn ddiweddarach aeth yr HMS Conway ar y creigiau gwastad (y “Platters”) wrth y bont a phan aeth yn drai fe dorrodd ei chefn ac fe’i gadawyd wedi ei dryllio ar lan y Fenai.

Mae’r rheswm am y llongddrylliad wedi bod yn bwnc trafod am yn hir iawn, Yn ôl David H. Thomas, cyn gadet ar y llong, ‘roedd yr amgylchiadau anodd ar y Fenai wedi eu dwysau gan ymchwydd anarferol a achoswyd gan dywydd garw ym Môr Iwerddon ond mae hefyd yn dweud mai’r ffaith fod y llong yn hwyr yn cychwyn o Blas Newydd oedd y prif achos.

Gadawyd y llongddrylliad tan 1956 pan ddechreuodd Bwrdd Harbwr Caernarfon ei symud. Fodd bynnag, yn ystod y gwaith aeth y llong ar dân a fe’i llosgwyd hyd at lefel y dŵr. Mae’n dal yn bosibl gweld gweddillion y llong ar drai isel.

Arhosodd yr ysgol ym Mhlas Newydd am ugain mlynedd arall. Yn ystod yr amser hwn benthyciwyd pebyll y fyddin tra’r adeiladwyd mwy o gabanau. Cafodd yr ysgol ei chau yn 1974 pan ddaeth rhoddion ariannol i ben. Yn ystod cyfnod olaf HMS Conway ym Mhlas Newydd, astudiodd Ian Duncan Smith a Syr Clive Woodard yno.

Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar wefan HMS Conwy. Mae’r dudalen hanes ar y wefan yma yn cynnwys adroddiad diddorol ar yr ymchwiliad i’r llongddrylliad.

Share this - Rhanwch hyn: