Gwirfoddoli

Ydych chi’n ystyried cyfleoedd i wirfoddoli? Mae Treftadaeth Menai (sydd yn amgueddfa ac elusen cydnabyddedig) yn chwilio am wirfoddolwyr. Mae’n gwirfoddolwyr yn hanfodol i lwyddiant yr amgueddfa ac fe werthfawrogir eu cyfraniad yn fawr iawn.

Beth mae Ymddiriedolaeth Treftadaeth y Fenai yn ei gynnig 

  • Profiad croesawgar a dymunol.
  • Y cyfle i ddysgu a datblygu sgiliau a phrofiadau newydd
  • Y cyfle i fod yn rhan o dïm cyfeillgar, brwdfrydig ac ymroddgar gyda’r cyfle i gyfarfod gwahanol bobol a gwneud ffrindiau newydd
  • Boddhad, cydnabyddiaeth a gwerthfawrogiad o’ch cyfranaid i’r gymuned leol
  • Cyfle i ddysgu am hanes diddorol y ddwy bont sy’n croesi’r Fenai ac am waith a bywyd y peirianwyr rhyfeddol, Thomas Telford a Robert Stephenson
  • Profiad uniongyrchol o weithio gyda casgliadau’r Ymddiriedolaeth
  • Cipolwg ar sut mae’r casgliadau yn cael eu trin a’u trafod

Amdanoch chi

Nid oes angen profiad blaenorol, byddwn yn cynnig yr holl hyfforddiant a’r wybodaeth y byddwch angen. Rydym yn chwilio am bobol sydd :

  • Yn fodlon ymgymeryd â hyfforddiant ar gyfer y rôl
  • Yn gyfeillgar, yn hawdd i siarad gyda hwy ac yn hyderus pan yn delio gyda’r cyhoedd
  • Gyda brwdfrydedd i weithio gyda ymwelwyr o bob oed a chefndir
  • Eisiau rhannu eu diddordeb mewn hanes trwy ffyrdd cydweithredol a diddorol
  • Sy’n gallu gwirfoddoli am un bore neu un prynhawn yr wythnos
  • Gyda’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond ddim yn hanfodol

Beth mae’r amgueddfa’n ddisgwyl gen’i

  • I fod yn wyneb croesawgar ar ran yr Amgueddfa ac i ofalu am ymwelwyr
  • I fod yn ddibynadwy ynglŷn â chadw amser
  • I gadw perthynas hwyliog gyda staff, gwirfoddolwyr eraill ac ymwelwyr
  • I ymgymeryd â hyfforddiant ac i fynychu cyfarfodydd adrannol achlysurol
  • I gynrychioli’r Amgueddfa mewn ffordd bositif bob amser
  • I fod yn ymwybodol o’r drefn ynglŷn ag achosion brys, dihangfeydd tân a.y.y.b.
  • I weithredu polisi’r Amgueddfa

SWYDD DDISGRIFIAD GWIRFODDOLWR

CYMHORTHWYR YR AMGUEDDFA

Crynhodeb o’r rȏl

Mae cymhorthydd yr Amgueddfa yn gyfrifol am helpu’r ymwelwyr ac am ddiogelwch y safle, hwy yw’r cyswllt cyntaf i’r ymwelwyr.

Prif ddyletswyddau

  • Agor yr adeilad a pharatoi’r arddangosfa
  • Cloi’r adeilad a gofalu fod popeth yn ddiogel
  • Cyfarch a gofalu am ymwelwyr ac egluro a dangos y drysau tân a.y.y.b.
  • Cofnodi rhifau ymwelwyr ar y ffurflenni priodol
  • Delio’n gwrtais gyda ymwelwyr ac ymateb i urhyw gwestiynau ynglŷn â chasgliadau’r Amgueddfa
  • Gwerthu a chofnodi itemau o siop yr Amgueddfa
  • Tacluso fel bo’r angen i sicrhau safonnau arddangos derbyniol
  • I gymeryd gofal rhesymol o iechyd a diogelwch eu hunain a’r ymwelwyr
  • I ymgymeryd â hyfforddiant fel bo’r angen

GWIRFODDOLWR Y TIM CASGLU

Crynhodeb o’r rȏl

Gwaith y tïm casglu yw cofnodi a gofalu am yr eitemau sydd yng ngofal Ymddiriedolaeth Treftadaeth y Fenai.

Prif ddyletswyddau

  • Cofnodi’r casgliadau
  • Dod yn gyfarwydd, a gweithredu polisi’r Ymddiriedolaeth yng nghyswllt gofal o’r casglaiadu
  • Dod yn gyfarwydd, a defnyddio sgiliau ynglŷn â thrin creiriau bregus
  • Dysgu a defnyddio meddalwedd cofnodi cyfrifiadurol
  • Scanio dogfennau hanesyddol
  • Cynorthwyo gyda’r dasg o gofnodi’r casgliadau trwy fewnbynnu data i fas data’r Ymddiriedolaeth
  • Ymgynghori gyda’r tïm ynglŷn â’r Casgliadau a’r data gofynnol
  • Dysgu am weithgareddau’r Ymddiriedolaeth
  • Yn achlysurol fe gyfyd y cyfle i wneud gwaith ymchwil a thanysgrifio

ARWEINYDD GWIRFODDOL TEITHIAU HANESYDDOL

Crynhodeb o’r rȏl

Arwain grwpiau ar deithiau i’r pontydd

Prif ddyletswyddau

  • Arwain grwpiau bach ar deithiau o gwmpas y pontydd
  • Gofalu am iechyd a diogelwch y grwp
  • Traddodi hanes a gwybodaeth o’r pontydd a’u hadeiladwyr
  • Dysgu am elfennau hanesyddol lleol fydd o ddiddordeb i’w rannu gyda’r grwp
  • I ymgymeryd â hyfforddiant fel bo’r angen

GWIRFODDOLWR GWEITHDAI YSGOLION

Crynhodeb o’r gwaith

Arwain grwpiau o blant ysgol

Prif ddyletswyddau

  • Arwain grwpiau o fyfyrwyr a phlant ysgol ar deithiau o gwmpas y pontydd
  • Gofalu am iechyd a diogelwch y grwpiau
  • Rhannu gwybodaeth am y pontydd a’u hadeiladwyr
  • Cynnal gweithdai yn y Ganolfan sy’n addas ar gyfer oed yr ymwelwyr ac yn rhoi hanes y pontydd a’u hadeiladwyr ynghyd â’r peirianwaith.
  • Mae’r defnydd o’r Gymraeg yn ddymunol iawn ar gyfer ysgolion lleol
  • Dysgu am elfennau hanesyddol lleol fydd o ddiddordeb i rannu gyda’r grwp
  • I ymgymeryd â hyfforddiant fel bo’r angen

Cysylltwch ar info@menaiheritage.og.uk neu 01248 715046

Share this - Rhanwch hyn: