Cyfle prin i weld y tŷ hanesyddol ble mae’r cadwyni mawr sy’n dal Pont y Borth wedi eu hangori.
Rhaid archebu lle – mae lle yn brin/ dim ond 12 ar y tro. Ceir hetiau galed ond angen gwisgo sgidiau synhwyrol. Merched – argymhellir trywsus grisiau agored i’w dringo! Nid yw’n addas i blant o dan 5 oed.
Cyfarfod wrth Dy’r Bont, ochr Gwynedd i’r Fenai.
Mynediad trwy fwcio ar amser penodol – dewiswch o’r amseroedd canlynol:
10.00 neu 11.15 neu 12.30 neu 14.00 neu 15.15
Pris: £5 i oedolion: £3 i blant
Bydd pob cyfraniad yn mynd at Amgueddfa Treftadaeth y Fenai. Bwciwch eich lle; manylion cyswllt isod:
Share this - Rhanwch hyn: