Coredau (Trapiau Pysgod) – 5 Mehefin 2017

Am 7 o’r gloch nos Lun y 5ed o Fehefin yng Nghanolfan Thomas Telford, bydd Sarah Ainley, myfyrwraig mewn hanes ac archioleg ym Mhrifysgol Bangor, yn rhoi cyflwyniad ar Drapiau Pysgod yn y Fenai. Mae’r cyflwyniad wedi ei seilio ar waith ymchwil blwyddyn olaf Sarah a bydd yn cynnwys hanes y trapiau ar Ynys Gorad Goch. Bydd yn trafod cynlluniau’r trapiau a’u lleoliad mewn mannau o ddiddordeb lleol.

Bydd tâl mynediad o £2 tuag at gostau’r amgueddfa.

Share this - Rhanwch hyn: