Addysg

0805717_1AAddysg a phrofiad unigryw

Mae’r ganolfan yn cynnig addysg a phrofiad unigryw i ysgolion a cholegau fel cyflwyniad i beirianneg, sgiliau adeiladu a hanes cyn ac ar ôl adeiladu’r ddwy bont. Cynigir gweithdai ar hanes ac ecoleg yr ardal. Byddwn yn falch o drafod y pynciau uchod gydag athrawon. Gallwn gefnogi eich ymweliad mewn sawl ffordd:

  • Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 1 a’r holl gyfnodau allweddol, trwy nifer o weithdai ar wagabik rabbay o’r cwricwlwm.
    Mae’r gweithdai wedi eu cyd-gynllunio gan athrawon Gyrfa Cymru ac athrawon ysgol, ac yn cael eu harwain gan beirianwyr a staff proffesiynol.
    Mae sesiynau wedi eu seilio ar gyflwyniad i beirianneg pontydd, iechyd a diogelwch, deunyddiau adeiladu, cludiant – llongau ayyb.
  • Gweithdai, cyflwyniadau a deunyddiau i ddisgyblion 14+ – cyfnod allweddol 4 a 5.
  • Tîm i’ch cyfarfod a’ch chroesawu.
  • Bwyd ar gael o drefnu ymlaen llaw, ystafell gotiau.
  • Dyddiau paratoi i athrawon, cynllunio ymweliad.
  • Cyn-baratoi i’r grŵp; iechyd a diogelwch ayyb.

Cliciwch yma i fwcio. Am gyngor cynllunio cysylltwch â Swyddfa’r Prosiect.

Share this - Rhanwch hyn: