Arddangosfa HMS Conway Yn Nhreftadaeth y Fenai

HMS Conway, gan Alastair Laing
HMS Conway, gan Alastair Laing

Mae Treftadaeth Menai yn bwriadu dathlu 65ed pen blwydd o’r adeg yr aeth yr HMS Conway i’r lan ar y Fenai, gyda arddangosfa yn Arddangosfa’r Pontydd.

Llong ysgol oedd y Conway ar gyfer dysgu cadetiaid sut i drin llong fawr. Ym 1941 fe’i symudwyd o Ben Bedw i’r Fenai lle yr angorwyd hi ger Bangor i gychwyn, cyn ei hadleoli ger Plas Newydd. Ar y 14eg o Ebrill 1953 bwriadwyd ei symud i Ben Bedw er mwyn ei hadgyweirio. Defnyddiwyd tynfadau i’w thynnu trwy’r Fenai a than y pontydd ond collwyd rheolaeth arni yn y cerynt ac fe aeth ar y graig ger Pont y Borth ac yno y bu tan 1956 pan aeth ar dân ac fe’i llosgwyd hyd at lefel y dŵr.

I gofio am y llong enwog, mae Treftadaeth y Fenai wedi sefydlu arddangosfa arbennig sy’n cynnwys lluniau o’r llong a rhai o’r cadetiaid fu arni. Mae hefyd nifer o greiriau i’w gweld, sydd wedi ei benthyca oddiwrth Cyfeillion yr HMS Conway.

Bydd yr arddangosfa i’w gweld hyd at ddiwedd Mehefin trwy ymweld ag Arddangosfa’r Pontydd Treftadaeth Menai yng Nghanolfan Thomas Telford, Porthaethwy (tros y ffordd â Waitrose) yn ystod oriau agor sef dydd Mercher ac Iau o 10 y bore hyd 5 y p’nawn. Mynediad yn £5 gyda plant tan 16 am ddim.

Hefyd bydd darlith arbennig ar y Conway ar yr 2il o Fehefin. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Share this - Rhanwch hyn: